Bore cymylog a gwynt o chwe not oedd yn aros hwylwyr ifanc Cymru ar ddechrau'r diwrnod cyntaf, felly gellid cychwyn hwylio'n brydlon. Cyn diwedd y pnawn roedd hi'n haul braf i gloi diwrnod eithriadol o lwyddiannus – a rhaglen gyflawn o dair ras wedi eu cwblhau.
I' r rhai oedd yn rasio cychod Optimist a Toppers, cychwynnwyd am 12:05 ac ar ôl tair ras Joshua Burgess oedd ar y blaen yn nosbarth yr Optimist, gyda Miles Jackson yn ail a Rowan Edwards yn drydydd. Merch ddaeth yn flaenaf ymhlith hwylwyr y Toppers, gydag Ellie Meopham ar ben y rhestr, a Thomas Williams yn ail a Michael Becket yn drydydd.
Pan wawriodd bore Sul, roedd y bae fel llyn llefrith, yr hwyliau'n llipa a'r baneri'n ddigyffro. Manteisiodd yr hyfforddwyr a defnyddio'r amser a'r lluniau fideo i adolygu'r diwrnod blaenorol. Ond yna daeth si fod yr hwylwyr Onboard yn cicio pêl ar y traeth ac fe ymunodd pawb arall yn y sbri!
Erbyn hanner dydd, ychydig yn fwy diweddar nag addewid y proffwyd tywydd, cafwyd gwynt i'r hwyliau unwaith eto ac erbyn 12.35 roedd modd cychwyn rasio – 4 ras i'r regatwyr, dwy ras i'r prif garfan mewn gwynt oedd yn codi ond yn amrywio o'r Gogledd Orllewin i'r De Dde Orllewin!
Ymhlith y prif garfan, parhau i ennill fu hanes Josh Burgess ac Ellie Meophan, gan ddefnyddio eu tactegau rasio Pwllheli dan gyfarwyddyd Mike Butterfield a'r tîm.
Yn ystod 2009 gwelwyd cryn gynnydd yn y niferoedd fu'n mynychu'r digwyddiadau yng Nghymru. Yn ôl Rheolwr Uwch Berfformiadau'r WYA "Mae'r newid hwn yn ganlyniad i'r ariannu gwaelodol wnaed gan Gyngor Chwaraeon Cymru o fewn y clybiau ac mae wedi denu hwylwyr newydd i'n digwyddiadau yng Nghymru. Drwy gyplysu hynny â nawdd Volvo dros y penwythnos hwn, rydyn ni wedi gweld achlysur o safon uchel iawn ar gyfer y rhai sy'n gobeithio ennill eu lle yn y sgwad am eleni. Ac fe welwyd sawl gwên lydan yn eu plith."
Ychwanegodd Tim Hall, (Y Cyfarwyddwr Hwylio) bod "cyfraniadau clodwiw y tîm o staff a gwirfoddolwyr wedi golygu fod Pwllheli, unwaith yn rhagor, wedi darparu adnoddau o safon byd-eang i'r hwylwyr, a hynny ar ein stepen drws yng Nghymru."
Diolch i bawb gyfrannodd tuag at y llwyddiant.